Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
8 Hydref 2018
SL(5)258 - Rheoliadau Traffordd yr M4 (Ffyrdd Ymadael tua’r Dwyrain a thua’r Gorllewin wrth Gyffordd 28 (Cyfnewidfa Parc Tredegar), Casnewydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2018
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod terfyn cyflymder uchaf o 40 milltir yr awr (yn lle'r terfyn cyflymder cyffredinol o 70 milltir yr awr a osodir ar draffyrdd gan Reoliadau Traffig Traffyrdd (Terfyn Cyflymder) 1974) ar y darnau o ffyrdd ymadael traffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015. Effaith y diwygiad yw dileu darn bach o'r ffordd ymadael tua'r gorllewin wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) yr M4 o'r rhan o'r ffordd sy'n ddarostyngedig i derfyn cyflymder amrywiadwy. Mae terfyn cyflymder uchaf o 40 milltir yr awr yn gymwys i’r darn hwnnw o’r ffordd ymadael o dan y Rheoliadau hyn.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984
Fe’u gwnaed ar: 24 Medi 2018
Fe’u gosodwyd ar: 27 Medi 2018
Yn dod i rym ar: 19 Hydref 2018